Solar Panels, Hydroelectric Power, Wind Turbines - Renewable Energy

Solar Panels, Hydroelectric Power, Wind Turbines - Renewable Energy

Sefydlwyd Dulas Cyf ym 1982 i ddarparu datrysiadau ynni adnewyddadwy a fyddai’n helpu creu byd gwell. Mae’r egwyddor hon yn parhau i fod yn hollbwysig i ni heddiw. Rydym ni’n fusnes gyda bwriad: i wella bywydau pobl trwy ddarparu datrysiadau cynaliadwy.

Mae ein tîm profiadol o beirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technoleg wedi ymrwymo i gyflawni datrysiadau ynni adnewyddadwy cadarn a hirhoedlog. Fel arbenigwyr ynni adnewyddadwy sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang, yn aml rydym yn cael ein galw i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i dechnolegau ynni adnewyddadwy ym mhedwar ban byd.

Ffurfiwyd y cwmni’n wreiddiol ym 1982 fel menter fasnachol Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, canolbarth Cymru.

Rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cymreig ac rydym yn gwneud pob ymdrech i gyfathrebu â’n cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg ble mae hynny’n bosibl. Fodd bynnag, nifer cyfyngedig o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio i’r cwmni, felly dim ond i nifer bychan o gleientiaid y gallwn gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai meysydd o’n busnes. Mae polisi iaith Gymraeg Dulas, ynghyd â nifer o ddogfennau cyfrwng Cymraeg eraill, ar gael trwy glicio ar y dolenni isod.

Cliciwch i lawrlwytho

DulasLlenwch ac anfonwch y ffurflen ymholiad ganlynol. Byddwn yn ymateb i’ch ymholiad. Mae’r meysydd gorfodol wedi’u marcio â *

Enw*
Cwmni
Ffôn*
Cyfeiriad e-bost*
Eich ymholiad*

Defnyddiwch y tabl isod i weld y pamffledi a'r ffurflenni asesiad sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr iaith Gymraeg os gwelwch yn dda. Fe fydd mwy o ddogfennau yn cael eu ychwanegu pan fyddant ar gael.

Dewiswch gategori
Teitl Adran Dyddiad Disgrifiad Llawrlwytho

Dewiswch gategori.